Gweithio i Heddwch ar Waith
Ymunwch â ni i adeiladu Cymru fwy heddychlon! Mae Heddwch ar Waith yn chwilio am Gydlynydd Prosiect angerddol a brwdfrydig i helpu i yrru ein gwaith ymlaen yn herio militariaeth a hyrwyddo heddwch cadarnhaol. Mae hwn yn gyfle unigryw i arwain rhwydwaith ysbrydoledig o ymgyrchwyr, pobl ifanc a chymunedau, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru. Os ydych chi'n barod i ddod ag egni, gweledigaeth a chalon i rôl sydd â gwir effaith — byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!